Teuluoedd glowyr fu farw mewn pwll glo yn galw am gwest llawn

Teuluoedd glowyr fu farw mewn pwll glo yn galw am gwest llawn
Mae anwyliaid pedwar dyn a gollodd eu bywydau yn nhrychineb Pwll glo Gleision ger Pontardawe ym mis Medi 2011 wedi galw am gwest llawn i'w marwolaethau.
Yn ôl teuluoedd y glowyr, mae yna gwestiynau o hyd sydd heb eu hateb am y trychineb ddigwyddodd yng Nghilybebyll, ger Pontardawe yn sgil honiadau newydd o gloddio anghyfreithlon cyn y trychineb.
Bu farw'r pedwar glöwr Charles Breslin, David Powell, Phillip Hill a Garry Jenkins yn y trychineb glofaol gwaethaf yng Nghymru ers dros 40 mlynedd pan lifodd dŵr i waith glo'r Gleision yng Nghwm Tawe gan gaethiwo'r gweithwyr dan y ddaear.
Er i reolwr a pherchnogion y lofa gael eu canfod yn ddieuog o ddynladdiad mewn achos llys yn 2014, mae yna honiadau newydd o gloddio anghyfreithlon cyn y trychineb wedi codi.
'Atebion'
Dros ddegawd ers eu marwolaethau – daeth teuluoedd y dynion ddydd Mercher i Neuadd y Ddinas Abertawe, ble mae swyddfa'r crwner, i chwilio am atebion.
D'oedd crwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ddim yn medru rhoi sylw ar yr achos.
Ond gofyn am gyfiawnder mae'r teuluoedd ac maen nhw am barhau i bwyso am atebion.
Dywedodd Mavis Breslin, gweddw Charles Breslin, wrth Newyddion S4C: “Gobeithio gewn ni atebion nawr. Ni ‘di bod yn aros shwt gymaint o amser. ‘Sdim ots faint o amser mae o yn cymryd – dim ond bod ni yn cael atebion.
“Ni moyn gwybod pam nagyn ni wedi cael atebion. Beth oedd wedi digwydd ar y diwrnod ‘na?”