Newyddion S4C

CPD Llanilltud Fawr yn colli apêl i ymuno â'r JD Cymru Premier

21/04/2022
Llanilltud

Mae Clwb Pêl-droed Llanilltud Fawr wedi methu yn ei chais i ennill trwydded er mwyn cael ei dyrchafu i'r JD Cymru Premier. 

Er mwyn cystadlu yn haen uchaf pêl-droed Cymru, mae'n rhaid i glybiau gyrraedd safonau penodol oddi ar y cae fel maint eu stadiwm a threfniadau ariannol.

Cafodd cais gwreiddiol CPD Llanilltud Fawr i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) ar gyfer y drwydded Haen Un ei wrthod ddechrau'r mis.

Mae apêl y clwb yn erbyn y penderfyniad bellach wedi'i wrthod ddydd Iau.

Mae'n golygu na fydd y clwb yn cael ei ddyrchafu, er ei fod wedi ennill cynghrair JD De Cymru. 

Yn eu lle bydd CPD Pontypridd, a orffennodd yn ail y tu ôl i Lanilltud,  yn ymuno â CPD Airbus UK Brychdyn yn y Cymru Premier tymor nesaf. 

Mae'r penderfyniad hefyd yn cadarnhau y bydd CPD Y Barri yn disgyn o'r Cymru Premier am y tro cyntaf ers 2017. 

Fe orffennodd Y Barri yn y ddau olaf yn y gynghrair eleni ac roedd y clwb yn dibynnu ar dimau yng nghynghrair De Cymru i fethu eu ceisiadau am drwydded Haen Un er mwyn cadw eu lle yn y Cymru Premier. 

Llun: CPD Llanilltud Fawr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.