Cymru i herio Ffrainc ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched
Bydd tîm rygbi Cymru yn herio Ffrainc ym Mharc yr Arfau nos Wener ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched.
Bydd Cymru yn gobeithio dysgu o'u perfformiad yn erbyn Lloegr ar ôl colli o 58 i 5, ond bydd wynebu Ffrainc, sy'n rif tri yn rhestr detholion y byd rygbi, yn sialens yn ei hun.
Fe gyhoeddodd hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Ioan Cunningham, bum newid i'r tîm, gyda Keira Bevan ac Elinor Snowsill yn dychwelyd fel mewnwyr a Robyn Wilkins yn cael ei blaenoriaethu o flaen Kerin Lake fel canolwr.
Bydd Cerys Hale a Natalia John yn dychwelyd i'r safleoedd pen tynn a chlo gyda Beth Lewis yn dechrau am y tro cyntaf yn yr ymgyrch ar yr ochr agored a'r capten, Siwan Lillicrap yn dychwelyd fel wythwr.
Her yn erbyn y Ffrancwyr
Mae Ffrainc yn parhau yn ddiguro ar ôl tair rownd gyda'r gêm hon yn gweld saith newid i'r fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban.
Mae hanes diweddar rygbi merched rhwng Cymru a Ffrainc yn profi'r her fydd yn wynebu tîm Ioan Cunningham nos Wener, wrth i Les Bleus sgorio dros 50 o bwyntiau yn y tair gêm ddiwethaf rhwng y ddwy wlad.
Er hyn, mae tîm rygbi merched Cymru wedi profi blwyddyn o newidiadau mawr ers iddynt chwarae ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tro diwethaf, wrth i gytundebau proffesiynol gael eu rhoi i 12 chwaraewr, gyda 12 arall â chytundebau rhan amser.
Dywedodd yr hyfforddwr Ioan Cunningham bod y garfan wedi dysgu llawer ar ôl colli i Loegr bythefnos yn ôl a'u bod yn "edrych ymlaen" at gael dychwelyd i Barc yr Arfau yng Nghaerdydd.
Y tîm: 15 Kayleigh Powell; 14 Lisa Neumann; 13 Hannah Jones; 12 Robyn Wilkins; 11 Jasmine Joyce; 10 Elinor Snowsill; 9 Keira Bevan; 1 Gwenllian Pyrs; 2 Carys Phillips; 3 Cerys Hale; 4 Natalia John; 5 Gwen Crabb; 6 Alisha Butchers; 7 Bethan Lewis; 8 Siwan Lillicrap (capt)
Eilyddion: 16 Kelsey Jones; 17 Cara Hope; 18 Donna Rose; 19 Alex Callender; 20 Sioned Harries; 21 Ffion Lewis; 22 Kerin Lake; 23 Niamh Terry.
Llun: Asiantaeth Huw Evans