Manchester United wedi penodi Erik Ten Hag fel rheolwr newydd

Mae Manchester United wedi penodi Erik ten Hag fel eu rheolwr newydd.
Bydd yr Almaenwr, sydd ar hyn o bryd wrth y llyw gydag Ajax yn Yr Iseldiroedd, yn cymryd lle Ralf Ragnick yn yr Haf.
Dywedodd Ten Hag: "Mae'n anrhydedd fawr" i gael ei benodi'n rheolwr a'i fod wedi ei "gyffroi'n fawr gan yr her sydd o'i flaen".
Daw'r penodiad yn dilyn tymor siomedig i Manchester United sydd yn chweched yn y Brif Gynghrair yn dilyn cweir 4-0 gan Lerpwl ddydd Mawrth.
Darllenwch fwy yma.