Newyddion S4C

Rhyfel Wcráin: 'Bydd Rwsia yn cipio Mariupol heddiw', medd cynghreiriad Putin

Sky News 21/04/2022
S4C

Mae cynghreiriad blaenllaw Vladimir Putin yn honni y bydd lluoedd Rwsia yn cipio dinas Mariupol ddydd Iau.

Daw y sylwadau wedi i Lywodraeth Wcráin rybuddio nad yw ei lluoedd yn gallu “dal am lawer hirach”.

Mae’r ddinas ddeheuol sydd dan warchae ers sawl wythnos, wedi bod yn darged allweddol i Rwsia ers i’r rhyfel ddechrau bron i ddau fis yn ôl.

Mae'r ddinas wedi bod o dan ymosodiadau dyddiol, ac mae mwyafrif yr ardal wedi'i dinistrio. Does gan y mwyafrif o’r ddinas ddim mynediad at drydan, gwres, bwyd na chyflenwadau meddygol. 

Darllenwch y stori'n llawn yma. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.