Storm Chandra: Rhybuddion melyn am wynt a glaw ar gyfer y canolbarth a'r de

26/01/2026
Rhybudd tywydd 26/01

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn ar gyfer canolbarth a de Cymru.

Bydd rhybudd melyn am law mewn grym o 13.00 ddydd Llun tan 10.00 ddydd Mawrth wrth i Storm Chandra daro'r wlad.

Mae disgwyl cawodydd trwm ar draws de a chanolbarth Cymru o brynhawn Llun ymlaen tan fore Mawrth. 

Fe allai rhwng 20-30mm o law ddisgyn ac mae rhwng 50-80mm yn bosib ar dir uwch, gan gynnwys Bannau Brycheiniog. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y gallai rhai amodau achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, a chreu trafferthion i deithwyr.

Fe allai rhai gwasanaethau trên a bws gael eu hoedi neu eu canslo hefyd yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol: Blaenau Gwent; Caerffili; Sir Gâr; Merthyr Tudful; Castell-nedd Port Talbot; Sir Benfro; Rhondda Cynon Taf; Torfaen; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerdydd; Ceredigion; Sir Fynwy; Casnewydd; Powys; Abertawe; Bro Morgannwg.

Gwyntoedd cryfion

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt ar gyfer y de orllewin fore Mawrth.

Bydd y rhybudd mewn grym o 05.00 tan 16.00 ddydd Mawrth ac yn effeithio ar siroedd Abertawe, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd Storm Chandra yn dod â gwyntoedd cryfion i'r ardaloedd yma yn ystod fore Mawrth.

"Bydd hyrddiau o 50-60 mya ar y tir a 60-70 mya ar hyd arfordiroedd agored," meddai llefarydd. 

"Mae siawns fach o hyrddiau hyd at 80 mya ar gyfer rhannau o Sir Benfro. 

"Dylai'r gwyntoedd dawelu'n raddol yn ddiweddarach yn y prynhawn."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.