Canllawiau diogelwch 'heb eu dilyn' ar set ffilm Alec Baldwin lle saethwyd gweithiwr

Ni chafodd canllawiau diogelwch eu dilyn ar set ffilm Alec Baldwin lle saethwyd gweithiwr yn farw, yn ôl adroddiad.
Bu farw Halyna Hutchins ar set y ffilm Rust ym Mecsico Newydd yn yr Unol Daleithiau y llynedd, ar ôl i Baldwin danio dryll tra'n ymarfer ar gyfer golygfa.
Mae Baldwin eisoes wedi mynnu nad oedd wedi tanio'r dryll a bod "rhywun wedi rhoi bwled fyw yn y gwn".
Mae adroddiad mewn llys ym Mecsico Newydd wedi darganfod fod y cwmni cynhyrchu oedd yn gyfrifol am y set yn gwybod nad oedd rheolau yn cael eu dilyn ac wedi dangos "diffyg diddordeb" mewn diogelwch gweithwyr.
Mae'r cwmni wedi derbyn y dirwy uchaf posib o dan gyfraith Mecsico Newydd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Gage Skidmore