AS Dwyfor Meirionnydd yn galw am gyfraith i wahardd celwyddau mewn gwleidyddiaeth
AS Dwyfor Meirionnydd yn galw am gyfraith i wahardd celwyddau mewn gwleidyddiaeth
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi galw am gyfraith i wahardd celwyddau mewn gwleidyddiaeth.
Yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan ddydd Mercher, galwodd Ms Roberts ar Boris Johnson i gefnogi cynnig ei phlaid am gyfraith o’r fath.
Wrth gyflwyno ei chwestiwn ar lawr y Tŷ, dywedodd bod Plaid Cymru wedi bod yn galw am gael deddf debyg ers cymaint â 15 mlynedd.
Dywedodd fod pôl piniwn gan y sefydliad trawsbleidiol Compassion in Politics wedi dangos bod 73% o bobol yn cefnogi’r syniad.
Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson ei bod hi'n “amlwg fod rheolau’r Tŷ hwn yn mynnu ein bod ni’n dweud y gwir yn y Tŷ hwn, a dyna rydyn ni i gyd yn ceisio’i wneud”.
Fis Ebrill y llynedd fe gytunodd Mr Johnson â’r “egwyddor sylfaenol” o gyflwyno deddfwriaeth.
Wrth siarad ar ôl y sesiwn, dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd: “Fe ddangosodd ateb Boris Johnson gymaint mae o wedi colli gafael ar y farn gyhoeddus."