Newyddion S4C

Pum newid i dîm rygbi merched Cymru cyn wynebu Ffrainc

20/04/2022
Siwan Lillicrap

Mae hyfforddwr tîm rygbi Cymru wedi cyhoeddi pum newid i'r tîm a fydd yn wynebu Ffrainc ym mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched nos Wener.

Mae Cerys Hale a Natalia John yn dychwelyd i'r safleoedd pen tynn a chlo gyda Beth Lewis yn dechrau am y tro cyntaf yn yr ymgyrch ar yr ochr agored.

Mae Keira Bevan ac Elinor Snowsill yn dychwelyd fel mewnwyr, gyda Niamh Terry yn ymuno â'r tîm ar y fainc.

Dywedodd yr hyfforddwr Ioan Cunningham fod y garfan wedi dysgu llawer ar ôl colli i Loegr bythefnos yn ôl a'u bod yn "edrych ymlaen" at gael dychwelyd i Barc yr Arfau, Caerdydd.

Y tîm: 15 Kayleigh Powell; 14 Lisa Neumann; 13 Hannah Jones; 12 Robyn Wilkins; 11 Jasmine Joyce; 10 Elinor Snowsill; 9 Keira Bevan; 1 Gwenllian Pyrs; 2 Carys Phillips; 3 Cerys Hale; 4 Natalia John; 5 Gwen Crabb; 6 Alisha Butchers; 7 Bethan Lewis; 8 Siwan Lillicrap (capt)
Eilyddion: 16 Kelsey Jones; 17 Cara Hope; 18 Donna Rose; 19 Alex Callender; 20 Sioned Harries; 21 Ffion Lewis; 22 Kerin Lake; 23 Niamh Terry.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.