Netflix yn colli tanysgrifwyr am y tro cyntaf ers dros 10 mlynedd

Mae nifer tanysgrifwyr Netflix wedi gostwng am y tro cyntaf ers mwy na degawd.
Mae’r cwmni sy'n ffrydio ffilmiau a rhaglenni teledu wedi colli 200,000 o aelodau yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn.
Daeth y gostyngiadau ar ôl i’r cwmni godi prisiau yn yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig, a gosod sancsiynau yn Rwsia yn sgil rhyfel Wcráin.
Rhybuddiodd Netflix y bydd yn dechrau gweithredu i atal pobl rhag rhannu cyfrifon gyda’u gilydd, gan fod rhai pobl yn gwneud hynny er mwyn osgoi talu ffi aelodaeth.
Darllenwch y stori'n llawn yma.