Gallai gwylio'r teledu mewn ceir sy'n gyrru eu hunain gael ei ganiatáu

Mae’n bosib y bydd pobl sy'n defnyddio ceir sy’n gyrru eu hunain yn cael gwylio'r teledu wrth yrru, o dan gynlluniau i newid rheolau’r ffordd fawr.
Mae’r newidiadau yn nodi y bydd yn rhaid i yrrwyr fod yn barod i gymryd rheolaeth pan ofynnir iddynt, meddai'r llywodraeth.
Bydd defnyddio ffonau symudol wrth yrru yn parhau i fod yn anghyfreithlon hefyd.
Ni chaniateir unrhyw geir sy’n gyrru eu hunain ar ffyrdd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ond gallai’r cerbydau cyntaf fod yn barod i’w defnyddio yn ddiweddarach eleni, meddai’r Adran Drafnidiaeth (DfT).
Mae disgwyl i'r newidiadau ddod i rym dros yr haf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.