Newyddion S4C

Zelenskyy

Rhyfel Wcráin: Arlywydd Zelenskyy yn galw am fwy o arfau

Sky News 20/04/2022

Mae Arlywydd Wcráin wedi galw ar y gymuned ryngwladol i ddarparu mwy o gymorth milwrol i’r wlad.

Dywedodd pe bai gan Wcráin arfau tebyg i’r rhai a ddefnyddir gan Rwsia, byddai rhyfel drosodd erbyn hyn.

“Byddem wedi adfer heddwch ac wedi rhyddhau ein tiriogaeth oddi wrth y deiliaid,”meddai.

Mae’r Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a Chanada wedi addo anfon mwy o arfau milwrol i’r wlad, ac mae’r Tŷ Gwyn wedi dweud bod sancsiynau newydd yn cael eu paratoi.

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.