Newyddion S4C

Carren a Bedri: O Dwrci i Gymru

20/04/2022

Carren a Bedri: O Dwrci i Gymru

Mae Carren Lewis a'i mab, Bedri, yn byw yng Nghaeriw yn Sir Benfro, ond mae eu stori a'u taith yn mynd yn ôl dros bymtheg mlynedd, ac yn cychwyn dros 2,000 o filltiroedd i ffwrdd o Gymru, yn Nhwrci. 

Yn 27 mlwydd oed, fe benderfynodd Carren symud i Dwrci am gyfnod o chwe mis, ond ar ôl cyfarfod dyn o'r wlad a'i briodi yn ddiweddarach, fe ymgartrefodd hi ym Marmaris yn ne-orllewin Twrci, ac aros yn y wlad am gyfnod o 16 mlynedd. 

"Es i i Twrci oherwydd odd fy 'mhriodas i newydd dorri lawr ag do'n i ddim yn gwbo' be i 'neud efo fy hun, lle 'on i isio bod." meddai Carren.

Ar ôl symud i fyw yno a gweithio fel holiday rep yn y wlad, fe wnaeth hi gychwyn busnes efo ei gŵr ym Marmaris. 

"Oedda ni'n gweithio efo'n gilydd ac wedyn 'aru ni syrthio mewn cariad a dechra busnas ein hunan, ag udes i o'r dechra 'mod i isio plant, dyna be dwi 'di bod isio 'rioed."

Ond ar ôl ceisio beichiogi drwy IVF deirgwaith a cholli'r plentyn bob tro, troi at fabwysiadu gwnaeth y ddau.

Er hyn, yn sgil straen priodasol, penderfynodd Carren deithio o amgylch Twrci am gyfnod er mwyn pwyso a mesur y sefyllfa, ac yn y pen draw, fe wnaeth y penderfyniad yma i adael Marmaris newid ei bywyd am byth. 

Image
Carren a Bedri

Dianc i Diyarbakir

Diyarbakir, dinas hynafol yn ne-ddwyrain Twrci oedd pen ei thaith. 

Ond fe syfrdanodd Carren o weld cynifer o blant digartref oedd i'w canfod ar strydoedd y ddinas.

"Pan es i lawr yna (i Diyarbakir), 'on i fod i aros diwrnod, ond oedd 'na cyn gymaint o blant yn byw ar y stryd ag 'on i 'di gwirioni efo nhw.

"Nes i benderfynu methu'r bys y bore wedyn ag aros noson arall yn Diyarbakir."

Fe wnaeth yr ysfa i fabwysiadu plentyn ei chymell hi i gael trafodaeth efo ei gŵr yn ôl ym Marmaris i geisio helpu'r plant bach amddifad yn Diyarbakir mewn unrhyw ffordd bosibl. 

Sefyllfa amhosib

Ar ôl cryn drafodaeth, llwyddodd Carren a'i gŵr i ddychwelyd yn ôl i gartref plant amddifad yn Diyarbakir, a dyma lle bu iddynt gyfarfod Shweda a Mohammed am y tro cyntaf. 

Ychydig fisoedd oed oedd Shweda a Mohammed, ac fe wnaeth y cwpl syrthio mewn cariad efo'r ddau fabi bach ar unwaith. 

"Oedda' ni di gwirioni efo'r ddau, wedyn 'ddaru ni benderfynu bo' ni am fabwysiadu dau. 'Ddaru ni ofyn os fysa ni'n cal gneud a dyma nhw'n deud bo' ni." meddai Carren.

Ar ôl adleoli a byw yn Diyarbakir am fisoedd gan ofalu a gwarchod y ddau fach, daeth cadarnhad y byddai Caren a'i gŵr yn cael mabwysiadu Shweda a Mohammed a dychwelyd fel teulu bach o bedwar i'w cartref teuluol ym Marmaris. 

Ond fe wnaeth hapusrwydd pur droi yn hunllef byw dros nos wrth i'r ddau wynebu penderfyniad amhosibl. 

Fe wnaeth yr awdurdodau newid eu penderfyniad, a datgan bod yn rhaid i Carren a'i gŵr benderfynu mabwysiadu un ai Shweda neu Mohammed, yn hytrach na'r ddau.

Ar ôl penderfyniad anodd, dewis mabwysiadu Mohammed wnaeth y ddau. 

Image
Carren a Bedri

Stori Bedri

Erbyn heddiw, mae'r babi bach amddifad bellach yn bymtheg oed o'r enw Bedri.  

"Nath stori fi ddechrau pan nath mam iawn fi wedi gadal fi mewn bocs ymyl y border o Twrci a Syria lle odd gyd o'r fightio a stwff yn digwydd." meddai Bedri.

"Y rheswm dwi'n assumio bod nath hi neud hynna oedd odd hi'm yn gallu edrych ar ôl fi ddim mwy oherwydd ma' 'na lot o bobl tlawd rownd Twrci."

Gadael Twrci am Gymru

Yn anffodus, fe wnaeth y briodas chwalu rhwng Carren a'i gŵr, ac er bod Carren wedi penderfynu dychwelyd yn ôl i Gymru efo ei mab, fe gawson nhw gryn dipyn o drafferth yn gwneud hynny i gychwyn.

"Oedda' ni ddim yn gallu gadael y wlad heb ganiatâd fy ngŵr er bo' ni 'di gwahanu," meddai Carren.

"Yn diwadd ar ôl pedair blynadd o ddim cael gadael y wlad, 'ddaru fo ddeud bo' ni'n cael, a 'natho ni ddod yn ôl i Gymru, ag odd hynna yn ffantastig o deimlad."

Fe wnaeth Carren a Bedri ymgartrefu ym Mhenryndeudraeth, ac roedd cael eu hamgylchynu gan eu teulu a Chymreictod yn hwb mawr wrth i'r ddau ymgyfarwyddo â'u cartref newydd, er nad oedd y Gymraeg yn newydd i Bedri. 

Dywedodd Carren ei bod hi'n "cofio trio siarad Turkish efo Bedri, 'on i isio fo gario 'mlaen efo hynna yn dysgu'r iaith a dyma fo'n deud "paid â siarad Turkish efo fi mam, dwi 'mond isio siarad Cymraeg."" 

"O'dd hi'n hawdd i fi siarad Cymraeg achos 'on i'n gallu siarad Cymraeg yn grêt yn barod pan nesh i symud i fewn (i Gymru)." meddai Bedri. 

Edrych at y dyfodol

Mae Carren a Bedri bellach yn byw yng Nghaeriw yn Sir Benfro a Bedri wrthi yn paratoi tuag at ei arholiadau TGAU a'i obeithion am y dyfodol.

Mae'n gobeithio astudio cwrs gwyddoniaeth bwyd a maeth yng Ngholeg Sir Benfro gyda'r bwriad o fynd ymlaen i astudio gradd yn y maes maetheg yng Nghaerdydd - rhywbeth sy'n agos iawn at galon Bedri.

"Dwi isio helpu pobl sydd 'di colli teimlad nhw o bywyd, dibynnu os mae o gyda bwyd neu gydag iechyd meddwl a helpu pobl golli pwysau a rhoi pwysau on ond mewn ffordd iawn ag y ffordd iach."

Bydd Bedri hefyd yn dychwelyd i Marmaris yn Nhwrci ar ei wyliau at ei dad yn yr haf am y tro cyntaf ers gadael, a bydd hyn yn brofiad chwerwfelys iddo.

"Fydd mynd i Twrci yn anhygoel ac yn really emosiynol achos i weld lle dwi'n dod o, a sut mae pobl fel fi yn byw wan, a sut oedd nhw'n byw blynyddoedd yn ôl." meddai. 

O'r babi i Bedri

Mae Bedri ei hun wedi cael cryn dipyn o sioc wrth ddysgu am ei hanes a dysgu am sut aeth y babi bach a gafodd ei ddarganfod mewn bocs bymtheg mlynedd yn ôl i fyw yng Nghymru erbyn heddiw.

''On i'n meddwl mai rhywun arall oedd y person yn y stori, rywun o ffilm neu rywun o lyfr, ac wedyn un diwrnod, neshi figurio allan fod fi oedd yr hogyn oedd yn y bocs, fi oedd yr hogyn sydd yn cael siawns gen y byd i fod yn fyw wan a fi oedd yr hogyn nath mam fabwysiadu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.