Newyddion S4C

Penodi'r Gymraes gyntaf i ddyfarnu mewn prif gystadleuaeth bêl-droed

20/04/2022

Penodi'r Gymraes gyntaf i ddyfarnu mewn prif gystadleuaeth bêl-droed

Cheryl Foster fydd y Gymraes gyntaf i ddyfarnu mewn prif gystadleuaeth bêl-droed wedi iddi gael ei dewis ar gyfer Pencampwriaeth Ewro UEFA Y Merched 2022, yn yr haf. 

Fe wnaeth Cheryl, sydd hefyd wedi cynrychioli Cymru ar y cae pêl-droed, ddechrau ei gyrfa fel dyfarnwr yn 2013, cyn iddi gael ei chydnabod yn un o ddyfarnwyr benywaidd gorau Ewrop.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Cheryl: "Pan orffennais chwarae, doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud. Fe wnes i gymryd y chwiban fel y mae yn cael ei adnabod ac i allu cyrraedd y brig,  mewn prif dwrnamaint - mae'n gyflawniad enfawr ac yn rhywbeth roeddwn i'n bwriadu ei wneud.

Dywedodd ei bod hi yn hynod o falch ei bod wedi cynrychioli Cymru fel pêl-droediwr hefyd.

"Roedd cael 63 o gapiau'r adeg hynny yn anodd ond mae parhau i gynrychioli fy ngwlad yr un mor bwysig i mi," meddai.

Ysbrydoli

Ychwanegodd: "Mae'n mynd i fod yn foment falch i'r gymuned ddyfarnu yng Nghymru ond hefyd i fy ffrindiau a'm teulu sydd wedi bod trwy'r daith hir hon gyda fi – ers oeddwn i'n 15 oed. Mae wedi bod yn daith hir; anodd ar adegau ond alla i ddim aros. Mae'n mynd i fod yn brofiad anhygoel, rwy'n edrych ymlaen ato."

Cheryl fydd y Cymro neu'r Gymraes gyntaf i ddyfarnu mewn pencampwriaeth pêl-droed fawr ers Clive Thomas yn 1978.

"Yn amlwg, nid ydym wedi cael llawer o ddyfarnwyr benywaidd drwy'r system beth bynnag felly, rwy'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddyfarnwyr a swyddogion yng Nghymru, yn ddynion ac yn fenywod.

"Rwy'n falch fy mod yn cael y cyfle hwn i gynrychioli Cymru mewn twrnamaint mawr ac yn amlwg yn chwifio'r faner dros fy ngwlad."

Dywedodd Laura McAllister, cyn chwaraewr pêl-droed Cymru: “Mae mor wych i weld rhywun yn symud ymlaen o chwarae pêl-droed i fod yn ddyfarnwr.”

Mae Pwyllgor Dyfarnwyr UEFA wedi penodi 12 i ddyfarnu yn ystod y bencampwriaeth yn ogystal â dyfarnwyr cynorthwyol. Bydd 31 o gêmau yn y bencampwriaeth sy'n cael ei chynnal yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2022. 

Llun: Gwefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.