Dyn 76 oed wedi marw ar ôl i'w gar daro wal ym Mae Penrhyn

Mae dyn 76 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mae Penrhyn, Sir Conwy brynhawn Llun.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i Ffordd Llandudno tua 14:50.
Bu farw'r dyn yn fuan ar ôl cael ei gludo i ysbyty wedi i'w gar Citroen C3 Picasso daro i mewn i wal yn y dref.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r Uned Blismona Ffyrdd neu drwy alw 101.
Darllenwch y stori'n llawn yma.