Capten Cymru yn hyderus, gan niwrnod cyn Gemau'r Gymanwlad

Capten Cymru yn hyderus, gan niwrnod cyn Gemau'r Gymanwlad
Gyda chan niwrnod tan Gemau’r Gymanwlad, mae capten Cymru, Non Stanford, yn dweud ei bod yn hyderus o ennill medal dros ei gwlad yn y triathlon.
Bydd Non yn arwain y garfan yn ystod y Gemau yn Birmingham eleni wrth i Gymru gystadlu yn erbyn athletwyr gorau'r gymanwlad.
Daeth Non yn chweched yn y gemau diwethaf yn Awstralia, ar ôl gorffen yn bedwerydd yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016.
Ond ni chafodd ei dewis i gynrychioli Prydain yng Ngemau Olympaidd Tokyo y llynedd.
Mae Non wrth ei bodd yn cystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad :
"Dwi'n rili edrych ymlaen cynrychioli Cymru yn Birmingham unwaith eto," meddai Non.
"Gweld y Ddraig Goch yn mynd lan o'r podiwm...bydd hynny'n wych ac wrth gwrs, breuddwyd rili i fi."
Mae nifer o athletwyr eraill o Gymru eisoes wedi cadarnhau eu lle yn y Gemau yn yr haf.
Ac mae'r tîm pêl-rwyd, timau hoci a thîm tenis bwrdd menywod Cymru bellach wedi sicrhau eu lle.
A Callum Evans fydd y dyn cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth y tenis bwrdd yng Ngemau’r Gymanwlad.
Mae Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei thîm codi pwysau, sef Hannah Powell, Catrin Jones, Christie-Marie Williams, Faye Pittman, Amy Salt, Michael Farmer a Jordan Sakkas.
Mae disgwyl i Gymru gyhoeddi ei charfan lawn erbyn mis Mehefin, gyda'r cystadlu yn dechrau ar 28 Gorffennaf.
Llun: Ashleigh Gentle