Costau trên mewn rhannau o Gymru i ostwng bron i 50% am y mis nesaf
Fe fydd prisiau tocynnau trên ar gyfer rhannau o Gymru yn gostwng o hyd at 50% am y mis nesaf.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi'r gostyngiad er mwyn annog pobl i ymweld â llefydd gwahanol ar hyd y wlad a chysylltu â theulu a ffrindiau.
Bydd pris tocyn arferol rhwng Llundain a Chaerdydd yn gostwng o £47 i £25, ond ni fydd y gostyngiad yn berthnasol i deithiau ar amseroedd brig.
Daw hyn wrth i gostau byw gynyddu gan ychwanegu pwysau ariannol ar deuluoedd.
Mae'r tocynnau'n mynd ar werth ar 19 Ebrill gyda'r tocynnau rhatach ar gael rhwng 25 Ebrill a 27 Mai.
Dywedodd y Blaid Lafur y bydd y gostyngiad yn "gysur bach i'r sawl sy'n talu miloedd yn fwy ar gostau teithio bob blwyddyn oherwydd penderfyniadau gan y Ceidwadwyr".
Llun: Jeremy Segrott (Flickr)