Rwsia wedi dechrau ymgyrch o'r newydd yn nwyrain Wcráin

Mae Rwsia wedi dechrau ymgyrch ddisgwyliedig o'r newydd yn nwyrain Wcráin, yn ôl yr Arlywydd Zelenskyy.
Mewn neges fideo nos Lun, dywedodd fod milwyr Rwsia "wedi dechrau'r frwydr" ar gyfer rhanbarth Donbas.
Ers rhai wythnosau bellach, mae lluoedd Rwsia wedi bod yn ail-sefydlu eu hunain wedi iddynt gael eu rhwystro rhag cymryd rheolaeth o'r brifddinas Kyiv.
Ychwanegodd Arlywydd Zelenskyy y bydd Wcráin yn ymladd "waeth beth yw'r nifer o filwyr Rwsia a gaiff eu gyrru yno".
Darllenwch fwy yma.