Un Nos Ola Leuad ar restr o lyfrau gorau'r 70 mlynedd diwethaf

Un Nos Ola Leuad ar restr o lyfrau gorau'r 70 mlynedd diwethaf
Mae’r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard wedi dod i’r brig ymhlith rhestr o lyfrau gorau’r 70 mlynedd ddiwethaf, i gyd-fynd â dathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines Elizabeth II.
Adran gelfyddydau’r BBC a’r Reading Agency sydd wedi cyhoeddi’r rhestr o 70 o lyfrau gyda deg o lyfrau wedi eu dewis o bob degawd y mae’r Frenhines wedi teyrnasu.
Mae amrywiaeth o weithiau wedi eu cynnwys o wledydd y Gymanwlad, gan gynnwys Awstralia, Guyana, India a De Affrica.
Mae Un Nos Ola Leuad ymhlith y deg llyfr gorau rhwng 1952 ac 1961.
Fe gafodd ei chyhoeddi yn 1961, a phrif themâu’r nofel yw gwallgofrwydd, tlodi a diniweidrwydd plentyn.
Ysgrifennodd yr awdur J Elwyn Hughes y gyfrol Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad sy’n bwrw golwg ar y byd a oedd yn sail i’r nofel.