Y pêl-droediwr Bruno Fernandes yn osgoi anaf yn dilyn gwrthdrawiad car

Mae'r pêl-droediwr Bruno Fernandes, sydd yn chwarae i Manchester United, wedi bod mewn gwrthdrawiad yn ei gar ddydd Llun.
Yn ôl MailOnline, digwyddodd hynny yn agos i gartref y chwaraewr canol-cae yn Sir Gaer wrth iddo deithio i gae ymarfer y clwb yn Carrington.
Dywedodd hyfforddwr Manchester United, Ralf Ragnick, fod Fernandes wedi ymarfer gyda'r garfan, ar ôl y gwrthdrawiad.
Mae disgwyl i Fernandes, sydd wedi bod yn rhan allweddol o dîm Manchester United ers ymuno â'r clwb yn 2020, chwarae yn y gêm yn erbyn Lerpwl ddydd Mawrth.
Darllenwch fwy yma.