Rhyfel Wcráin: Chwech wedi marw yn dilyn ffrwydradau yn ninas orllewinol Lviv

Mae nifer o ffrwydradau wedi taro dinas Lviv yng ngorllewin Wcráin, yn ôl llygad-dystion.
Yn ôl The Independent, fe ychwanegodd y maer bod chwe pherson wedi marw.
Mae 11 person, gan gynnwys plentyn, wedi'u hanafu.
Nid yw Lviv a rhannau gorllewinol Wcráin wedi eu heffeithio i'r un graddau â rhannau eraill o'r wlad.
Dywedodd maer y ddinas, Andriy Sadovyi, ar Facebook fod pum taflegryn wedi taro'r ddinas a bod y gwasanaethau brys yn ymateb.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Lesia Vasylenko (Twitter)