Tri wedi eu hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd ac un wedi marw yn Sir y Fflint
Mae tri pherson ifanc wedi dioddef “anafiadau difrifol” mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad ychydig cyn 22.00 nos Sadwrn ar ffordd yr A499 yn Llanbedrog.
Dywedodd yr heddlu fod y gwrthdrawiad yn ymwneud â char Ford Fiesta ST glas oedd wedi taro i mewn i wal.
Ychwanegodd yr heddlu fod y tri pherson ifanc oedd yn teithio yn y car wedi dioddef “anafiadau difrifol” yn y gwrthdrawiad.
Cafodd un o’r bobl ifanc eu symud mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke ac fe aeth y ddau arall i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans. Mae un o’r ddau aethpwyd i Ysbyty Gwynedd bellach wedi ei symud i Stoke.
Dywedodd y Sarjant Jason Diamond o Uned Plismona’r Ffyrdd: “Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y car Ford Fiesta ST glas yn cael ei yrru cyn hynny.
“Gall unrhyw un gysylltu gyda ni trwy alw 101 gan nodi cyfeirnod 22000262712.”
Mae'r heddlu hefyd yn apelio am wybodaeth am wrthdrawiad ar yr A548 yng Ngronant yn Sir y Fflint ychydig cyn 05.00 fore Sul.
Dywedodd yr heddlu fod un person wedi marw ac un arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Dywedodd y Sarjant Emlyn Hughes: “Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â char BMW arian a gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gan ddefnyddio cyfeirnod 22000263059."