Wcráin: Rwsia yn galw ar amddiffynwyr Mariupol i ildio

Mae Rwsia wedi galw ar filwyr Wcráin sy’n amddiffyn dinas Mariupol yn nwyrain y wlad i ildio.
Dywedodd Rwsia y byddan nhw yn arbed bywydau’r amddiffynwyr o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, os oedd milwyr Wcráin yn y ddinas yn cael eu lladd yna byddai unrhyw drafodaethau am gadoediad gyda Rwsia yn dod i ben ar unwaith.
Yn ôl adroddiadau mae tua 2,500 o filwyr Wcráin dan warchae mewn gwaith dur yn y ddinas sydd wedi dioddef ymosodiadau cyson gan luoedd Rwsia ers wythnosau.
Nid oedd unrhyw arwydd yn ystod dydd Sul fod milwyr Wcráin wedi ildio o gwbl i luoedd Rwsia.
Darllenwch y stori yn llawn yma.