Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion hyd at 65mya
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ddydd Mawrth allai gyrraedd hyd at 60-65mya ar hyd yr arfordir.
Fe ddaeth y rhybudd i rym am 04.00 y bore ac fe fydd yn para tan 16.00 brynhawn Mawrth.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai oedi fod yn debygol i rai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd y gallai’r gwynt effeithio ar wasanaethau fferi ac awyrennau, yn ogystal ag oedi ar y ffordd, ac i fysus a threnau.
Gall y tywydd garw effeithio ar ardaloedd ar hyd arfordir Cymru gyfan gan daro Ynys Môn yn y gogledd hyd at siroedd Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf yn y de.
Fe fydd y gwyntoedd cryfion yn dechrau yn y de-ddwyrain yn ystod oriau man y bore, gan ymledu tua'r gogledd-orllewin yn ystod y dydd.
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi dweud y dylai pobl baratoi ar gyfer y posibilrwydd o golli cyflenwad pŵer.
Dywedodd y gallai pobl wneud hynny drwy gasglu fflachlampau, batris, pecynnau pŵer ar gyfer eu ffônau symudol, yn ogystal â nwyddau hanfodol eraill.
Fe fydd y rhybudd melyn am wynt yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Bro Morgannwg
- Caerfyrddin
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Ynys Môn