Newyddion S4C

Gwaith celf yn tynnu sylw at waith adfer corsydd

Gwaith celf yn tynnu sylw at waith adfer corsydd

Mae gwaith celf newydd yn Nhregaron yn codi ymwybyddiaeth am adfer Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron.

Mae'r cyforgorsydd yng Nghors Caron yn fyd-enwog, gyda miliynau o fetrau ciwbig o fawn yn dal carbon ers dros 12,000 o flynyddoedd.

Mae'r arddangosfa, yng Nghanolfan Treftadaeth y Barcud Coch, yn dangos y gwaith sy'n cael ei wneud i wella'r gors, gwaith sydd angen ei wneud yn ôl Dana Thomas o brosiect cyforgorsydd Cymru LIFE.

Dywedodd: "Mae Cors Caron yn safle pwysig yn rhyngwladol, ac oherwydd hynny mae'r tri cyforgors sydd yng Nghors Caron yn bwysig hefyd. Ar hyn o bryd dy'n nhw ddim mewn cyflwr da a dy'n nhw ddim yn storio cymaint o garbon o'r atmosffêr a be ma nhw'n gallu.

"Beth ma'r prosiect yn trio gwneud yw gwella'r cyforgorsydd fel bod nhw'n wlypach, ma hynny meddwl wedyn bod y mawndir o fewn y cyforgors yn cadw'n wlyb ac yn cadw mwy o garbon o'r amgylchedd ac ma hynny'n helpu gyda newid hinsawdd."

 "Ry'n ni wedi bod yn byndio - creu cloddiau mawn isel - a byndiau ry'n ni'n galw rheiny. Be ma rheina wedyn yn neud yw dilyn cyfuchluniau y gors, a ma rheini yn dala dwr ar y cyforgors fel bod y safle yn cadw'n wlyb. Ry'n ni hefyd wedi bod yn torri gwair ar y safloedd - ac ma hynny yn agor y safloedd allan fel bod mwy o migwyn (mwsogl y gors) - a migwyn yw'r planhigyn pwysig ar y cyforgors - hwnnw sy'n dadlefennu ac yn creu mawn ar ddiwedd y dydd."

Ymdrech y gymuned

Roedd awydd hefyd i gynnwys y gymuned leol yn y gwaith, ac felly gafodd yr artist cymunedol Pod Clare gais i ddylunio wyth teilsen fosaig. Fe fuodd hi'n gweithio gyda myfyrwyr o Ysgol Gynradd ac Uwchradd Ysgol Henry Richard, trigolion Cartref Gofal Bryntirion yn Nhregaron, aelodau Canolfan Deulu Tregaron, ac aelodau o’r gymuned leol yn helpu gyda'r gwaith o greu'r gwaith celf.

Mae Margaret Jones yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Treftadaeth y Barcud Coch. 

Dywedodd: "Geithon ni ymweld gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac fe benderfynon nhw bod e'n le eitha da i hybysu eu gwaith nhw ar y gors lle ma nhw'n ceisio adfer y gors a chadw lefelau'r dwr lan. Eithon ni ati wedyn i ofyn i Pod Clare i ddylunio'r mosaig sy'n adlewyrchu'r gwaith sy'n digwydd ar y gors.

 "Ma hi wedi bod yn braf i gael prosiect fel hyn lle ma gyda chi rhai ifanc yn dod o Ysgol Henry Richard, a rhai o ganolfan henoed Bryntirion - mae e wedi bod yn dda iawn i bobol ddod i nabod eu gilydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.