‘Dechrau prysur’ i’r penwythnos i dîm achub mynydd yn Eryri
16/04/2022
Mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen wedi cael “dechrau prysur” i’r penwythnos.
Dywedodd y tîm eu bod nhw wedi cael eu galw i dri digwyddiad ddydd Gwener.
Bu’n rhaid achub cerddwr oedd wedi llithro ar fynydd Tryfan ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd i dderbyn triniaeth am “anafiadau difrifol.”
Roedd 15 aelod o'r tîm wedi trin y dyn oedd wedi cwympo tua 30 troedfedd ar ochr ogleddol y mynydd.
Roedd y tîm hefyd wedi rhoi cymorth i gerddwraig ger Llyn Cowlyd ac i ddyn oedd wedi anafu ei goes mewn chwarel ger Deganwy.
Llun: Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen