Boris Johnson wedi ei wahardd o Rwsia oherwydd ei safiad ‘gelyniaethus’ ar y rhyfel yn Wcráin

Prif Weinidog DU [CC]
Mae Prif Weinidog y DU Boris Johnson wedi ei wahardd o Rwsia oherwydd ei safiad ‘gelyniaethus’ yn erbyn y rhyfel yn Wcráin.
Mae’r uwch weinidogion Rishi Sunak, Liz Truss, Ben Wallace, Dominic Rabb a Priti Patel hefyd wedi eu gwahardd yn ôl Swyddfa Dramor llywodraeth Rwsia.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd fod hyn oherwydd “y weithred elyniaethus heb gynsail gan lywodraeth Prydain” i osod sancsiynau ar uwch swyddogion Rwsia.
Bydd rhagor o enwau gwleidyddion yn cael eu hychwanegu at y rhestr maes o law meddai’r datganiad.
Darllenwch fwy yma.