
Digwyddiad WWE yng Nghaerdydd yn 'rhoi Cymru ar y map'
Digwyddiad WWE yng Nghaerdydd yn 'rhoi Cymru ar y map'
Mae cyn-reslar wedi dweud bod penderfyniad y World Wrestling Entertainment (WWE) i gynnal digwyddiad yn Stadiwm y Principality yn medru "rhoi Cymru ar y map."
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud y bydd WWE, sydd yn gyfrifol am hybu gornestau reslo byd-eang, yn cynnal ei ddigwyddiad cyntaf ym Mhrydain ers 30 mlynedd yng Nghaerdydd ym mis Medi eleni.
Mae WWE yn denu miliynau o wylwyr ar draws y byd ac wedi lansio gyrfaoedd nifer o'r perfformwyr enwocaf fel Dwayne 'The Rock' Johnson a John Cena.
Roedd Barri Griffiths yn perfformio gyda'r WWE yn yr Unol Daleithiau rhwng 2009 a 2014.
Dywedodd y reslar o Dremadog yng Ngwynedd ei fod yn hapus iawn i weld y penderfyniad i ddod a WWE i Gymru.
"Iddyn nhw dewis Cymru mae hynny'n brilliant," meddai.

"Mae'n nod i Gymru, bod Cymru yn gallu denu mewn sioeau mawr fel hyn, o ni'n hapus iawn i glywed."
"Neis i gael y pethau fel yma yng Nghymru, mae jyst yn dangos fel pobl Cymraeg, dyma be sydd yn gallu dod i Gymru."
Mae Barri yn gobeithio y gall y digwyddiad ddenu mwy o sylw rhyngwladol i Gymru.
Yn ôl Barri, roedd ei Gymreictod yn rhan bwysig o'i berfformiadau gyda WWE ac yn meddwl y gall y sioe yng Nghaerdydd adeiladu ar yr hyn wnaeth i ddangos diwylliant Cymru i gefnogwyr reslo.
"Y ffaith bod o yn Gymru, mae pobl yn mynd i sbïo 'O mae yng Nghymru? Ble ma fanno?'
"Mae pobl ishe gwybod am ble mae'r sioe yn digwydd."
"Dwi'n siŵr fyd bydd miloedd o bobl yn dod drosodd o America i Gaerdydd i weld y sioe."
"Sioe enfawr ydy o, ac mae miliynau yn ddwli watsiad o."
Llun: Miguel Discart / Flickr