Galw am ddatganoli plismona yn sgil cynllun i gyfuno heddluoedd

Heddlu Dyfed-Powys

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli plismona yn sgil cynlluniau gan yr Ysgrifennydd Cartref i uno heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd, ac mae disgwyl cyhoeddiad yr wythnos nesaf y byddan nhw’n cael eu cyfuno i dorri ar gostau gweinyddol ac annog rhagor o gydweithio.

Mae pedwar heddlu yng Nghymru ar hyn o bryd, sef Heddlu’r Gogledd, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu’r De a Heddlu Gwent.

Fe gafodd yr wyth heddlu yn yr Alban eu cyfuno yn un, Police Scotland, yn 2013.

Fe gafodd cynlluniau tebyg i leihau’r nifer yng Nghymru a Lloegr i 12 eu cyhoeddi 20 mlynedd yn ôl, ond ni wnaeth hynny ddigwydd.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad disgwyliedig, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, ei bod yn “foment dyngedfennol” i blismona yng Nghymru.

“Os yw strwythurau plismona yng Nghymru am newid, rhaid gwneud y penderfyniadau hynny yng Nghymru, gan sefydliadau sy’n atebol i bobl Cymru,” meddai.

“Mae’r ‘un dull addas i bawb’ sy’n cael ei orfodi gan San Steffan yn peryglu gwanhau atebolrwydd lleol a phellhau plismona oddi wrth y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.”

Dywedodd ffynhonnell ar ran y Llywodraeth fod heddluoedd eisoes yn cydweithio ar draws ffiniau.

Cyfeiriodd at achos Heddlu Wiltshire, a oedd angen cefnogaeth gan 40 o heddluoedd eraill i ymateb i’r achosion o wenwyno yn Salisbury yn 2018.

Roedd gwahaniaethau enfawr hefyd yng nghyfraddau cyhuddo rhai troseddau rhwng heddluoedd, medden nhw.

“O dan y strwythur newydd hwn, bydd gan bob heddlu – waeth ble maen nhw – yr offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ymladd troseddau difrifol,” medden nhw.

“Ni fydd lle rydych chi’n byw bellach yn pennu’r canlyniadau a gewch gan eich heddlu.”

‘Nid yw mwy o faint yn golygu gwell'

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad disgwyliedig, dywedodd Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd (APCC) y byddai creu heddluoedd rhanbarthol yn creu cur pen pellach.

Fe fyddai’r ailstrwythuro yn ddrud ac yn cymryd llawer o amser, medden nhw.

Dywedodd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Matthew Scott a Clare Moody: “Mae’r cyhoedd eisiau plismona yn eu cymdogaeth.

“Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai’r cyhoedd yn croesawu heddluoedd mwy ac, o ran atebolrwydd cyhoeddus, mae hefyd yn peryglu creu gwahaniad rhwng heddluoedd a’r cymunedau lleol y maent yn eu gwasanaethu.”

Dywedodd ysgrifennydd cartref cysgodol y Ceidwadwyr, Chris Philp, nad oedd “unrhyw dystiolaeth” y byddai uno heddluoedd yn lleihau troseddu neu’n gwella perfformiad.

“Mae ad-drefnu o’r brig i lawr yn peryglu tanseilio ymdrechion i ymladd troseddu, gan arwain yn anochel at reolaeth ganolog a fydd yn ergyd i drefi a phentrefi ledled y wlad,” meddai.

“Yr heddlu mwyaf, y Met, sydd â’r cyfraddau datrys troseddau isaf, ac mae niferoedd y swyddogion heddlu sydd ganddyn nhw yn gostwng. Nid yw mwy o faint o reidrwydd yn golygu gwell.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.