Cau rhan o lwybr beicio poblogaidd yng Ngwynedd tan y Pasg
Bydd rhan o lwybr beicio poblogaidd yng Ngwynedd a gafodd ei ddifrodi gan dywydd garw ar gau tan wyliau'r Pasg ar gyfer gwaith atgyweirio.
Dywedodd Cyngor Gwynedd y bydd rhan o Lôn Eifion ar gau rhwng Penygroes a safle Inigo Jones yn Y Groeslon ger Caernarfon.
Ar ôl cynnal archwiliad o'r difrod, mae'r cyngor yn dweud bod cynlluniau ar waith i ailadeiladu'r llwybr.
Y bwriad ydy dechrau'r gwaith "yn yr wythnosau nesaf", gyda'r gobaith o ailagor y llwybr cyn gwyliau'r Pasg.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra dros yr wythnosau nesaf.
"Oherwydd maint y difrod a gafodd ei achosi gan y tywydd stormus ym mis Rhagfyr, nid yw'r rhan hon o'r llwybr yn ddiogel i'w defnyddio gan y cyhoedd ar hyn o bryd," meddai llefarydd ar ran y cyngor.
"Byddwn yn rhannu diweddariad pellach unwaith y bydd y gwaith yn dechrau ar y safle."
Mae Lôn Eifion yn llwybr beicio yng Ngwynedd sy'n ymestyn dros 12.5 milltir rhwng Caernarfon a Bryncir.
Mae'n rhan o lwybr Lôn Las Cymru sy'n daith 250 milltir o Gaergybi i Gaerdydd.