
'Dylai pobl ddefnyddio Twitter ar gyfer negeseuon caredig yn fwy aml'
'Dylai pobl ddefnyddio Twitter ar gyfer negeseuon caredig yn fwy aml'
Mae offeiriad sydd wedi bod yn ddefnyddiwr mawr o wefan Twitter yn dweud y dylai'r platfform gael ei ddefnyddio i anfon 'caredigrwydd' yn fwy aml.
Mae gan Y Parchedig John Gillibrand, sydd yn ficer ym Mhontarddulais, filoedd o ddilynwyr ar Twitter ac mae wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth ar gyfer rhannu negeseuon positif yn gysylltiedig â'i ffydd.
Yn ôl y Parchedig Gillibrand, fe ddylai mwy o bobl fanteisio ar y cyfle i rannu negeseuon caredig, yn enwedig wrth ystyried faint o atgasedd sydd yn medru cael ei rannu ar y platfform.
"Mae Twitter yn gallu bod yn lle peryglus, mae pobl yn fanno yn mynegi casineb," meddai.
"Mae gennai reol weddol bendant, bod dwi yno i ddangos cariad a charedigrwydd."

Mae Mr Gillibrand hefyd yn awyddus i hybu’r defnydd o Twitter er mwyn rhannu negeseuon crefyddol, gan honni fod rhannu negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol wedi'i alluogi i gysylltu gyda chymuned ehangach o Gristnogion.
"Mae'n bwysig bod Cristnogion yno," meddai.
"Mae yn gyfle i ni fod yn dystion i safonau uwch a bod yn bositif a bod yn gyfeillgar. Gyda gwen ar ein hwynebau!"
Mae Mr Gillibrand hefyd wedi profi'r daioni mae Twitter yn gallu ei wneud.
Mae ei fab Adam, sydd ag anghenion arbennig, wedi bod yn yr uned gofal dwys yn ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ers canol mis Ionawr.

Dywedodd Mr Gillibrand fod y gefnogaeth gan ddefnyddwyr Twitter wedi bod yn wych, gan ddenu geiriau o gymorth gan bobol ar draws y byd.
"Dwi wedi rhyfeddu at yr ymateb," meddai.
"Dwi yn amlwg wedi bod yn gweddïo, ond mae lluoedd o bobl amgylch y byd i gyd wedi bod yn gweddïo drosto."
"Fel teulu rydym yn gwerthfawrogi'n arw."
Mae Adam bellach yn gwella yn yr ysbyty ac mae John yn parhau i rannu negeseuon positif ar Twitter.
Such good news tonight. Doctor told us that we could be cautiously optimistic, and that there is light at the end of the tunnel. Adam will possibly need further surgery and certainly long term rehab, but this is much better news than we were expecting. https://t.co/nSnrU7Oznr
— John Gillibrand (@JohnGillibrand) April 14, 2022
Wrth i benwythnos y Pasg nodi cyfnod arbennig i Gristnogion ar draws y byd, a gyda gwasanaethau'r Pasg yn cael eu cynnal mewn addoldai unwaith eto, mae Mr Gillibrand yn bwriadu parhau i fanteisio ar Twitter fel rhan o'r dathliadau.
"Bore Sul y Pasg, mi fyddai i'n mynd ar Twitter ac mi fyddai'n teipio un gair: Halleulejah!"