Newyddion S4C

Tara Bethan: 'Mae angen trafodaeth fwy agored am drafferth beichiogi'

16/04/2022

Tara Bethan: 'Mae angen trafodaeth fwy agored am drafferth beichiogi'

“Dwi’n trio ers tair blynedd.”

Dyma eirau'r berfformwgraig Tara Bethan wrth iddi drafod ei phrofiad o geisio beichiogi ers bron i dair blynedd.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd Tara bod angen trafodaeth fwy agored am y drafferth mae rhai menywod yn ei gael i feichiogi.

“Mae angen trio normaleiddio'r sgwrs, achos dwi’n meddwl bod merched yn enwedig yn teimlo bod ni ddim fod i siarad amdano.

“Pam mae pobl yn trio beichiogi a does 'na neb yn gwybod, does 'na neb yn gallu bod yn sensitif atyn nhw.

“Dwi’n teimlo rhyddhad mawr bod fi’n gallu cyflwyno i’r byd bo’ fi’n trio ers tair blynedd, so plîs byddwch yn ofalus am y ffordd 'da chi’n trafod y pwnc o'n nghwmpas.”

Er bod meddygon wedi dweud wrth Tara nad oes rheswm pam na ddylai feichiogi,“dydy o jyst heb ddigwydd.”

Mae Tara wedi bod yn ymchwilio opsiynau eraill wrth geisio beichiogi, gan gynnwys triniaethau IVF ac IUI.

Ond dywedodd ei bod yn bryderus o’r opsiynau oherwydd ei hiechyd meddwl.

Mae Tara wedi bod yn agored am ei phroblemau iechyd meddwl yn y gorffennol, ac wrth iddi geisio beichiogi mae’n parhau i fod yn bwnc canolog yn ei bywyd.

“I fi'r ochr feddyliol dwi di bod mwyaf gofalus ac ymwybodol o ohono fo,” meddai.

“Oherwydd dwi wedi siarad yn agored efo’n strygls efo iechyd meddwl dros y blynyddoedd ac felly roedd yr opsiynau o fynd mewn i bwmpio fy hun efo hormonau yn rwbath o’n i mor bryderus.

“Dwi edrych ar ôl y meddwl fel rhif un.”

'Unigrwydd yn elfen enfawr'

Disgrifiodd Tara'r broses o drio am fabi fel un unig, ac mae hi’n teimlo y byddai'n haws os byddai’r drafodaeth yn un fwy agored.

“Ma' 'na gymaint o bobl efo’r broblem o beidio gallu beichiogi pam ma' nhw eisio a be sydd yn ffwndrus i fi ydi bod pobl ddim yn teimlo bod nhw’n cael neu yn gallu siarad am dano fo.

“Wrth gwrs eich stori hi i rannu ydy hi os da chi isio. Ond ma' unigrwydd yn elfen enfawr, ond y mwyaf ti’n siarad efo pobl mae o yn helpu.

“Mewn undod mae nerth. I fi mae’r broblem yn ysgafnhau os da chi’n gallu siarad efo pobl eraill.”

Mae ei phrofiad wedi arwain iddi ddechrau podlediad newydd gyda’i ffrind a’r actores Erin Richards - ‘Not Not Trying’.

Image
S4C

Mae Not Not Trying yn dilyn taith y ddwy ffrind yn eu 30au hwyr wrth iddynt drio am fabi.

“Yn amlwg mae 'na fwy o bwysa'r hynaf dani’n mynd i feichiogi, achos ma’r cloc yn tician a ‘da ni ddim yn gwybod pryd ma’r cloc yn stopio tician.

“Ond da ni’n yn ymwybodol y hwyraf ti’n gadael o'r anoddaf mae o’n gallu bod.

“Ar ôl ti briodi yn anffodus ma gymaint o bobl yn gofyn pryd ti’n cael babi. Mewn ffordd ma’r podlediad ma yn ffordd i ddweud dwi yn trio ers tair blynedd felly byddwch yn fwy caredig yn y ffordd da chi’n gofyn.”

Mae Tara yn gobeithio bydd y podlediad yn newid y sgwrs am y drafferth mae rhai menywod yn wynebu wrth geisio beichiogi.

“Be sydd angen mwy na dim byd ydy sgwrsio, empathi a deallusrwydd a gobeithio dyna neith y podcast.”

Mae modd gwrando ar 'Not Not Trying' yma. 

Llun: Geraint Todd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.