Bwriad i anfon ceiswyr lloches o'r DU i Rwanda 'o fewn chwe wythnos'

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson yn dweud fod y llywodraeth yn bwriadu anfon y ceiswyr lloches cyntaf o Brydain i Rwanda o fewn chwe wythnos.
Daw hyn wrth i'r llywodraeth geisio ostwng y nifer o bobl sy'n croesi'r sianel i'r DU yn anghyfreithlon.
Mae'r cynllun wedi derbyn ymateb chwyrn gan elusennau a'r gwrthbleidiau, ac fe ddywedodd Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig brynhawn dydd Gwener fod y cynllun yn groes i gyfraith ryngwladol.
Mae Mr Johnson yn awyddus i weld y ceiswyr lloches cyntaf sy'n cael eu cyhuddo o gyrraedd y DU yn anghyfreithlon yn gadael am Rwanda yn hwyr fis nesaf, gan roi cychwyn ar gynllun gwerth oddeutu £120 miliwn sy'n anelu at anfon miloedd i Rwanda yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd Andrew Griffith, cyfarwyddwr polisi Rhif 10 nad oes angen deddfwriaeth newydd "gan ein bod ni'n credu y gall y cynllun weithio o dan y confensiynau presennol."
Er hyn, mae'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, wedi cydnabod y gall y cynlluniau hyn gael eu herio yn y llysoedd.
Darllenwch fwy yma.