Boris Johnson yn amddiffyn cynllun i hedfan ceiswyr lloches i Rwanda
Mae Boris Johnson wedi amddiffyn cynllun ei lywodraeth i anfon ceiswyr lloches i Rwanda er mwyn cael eu prosesu fel rhan o ymdrech i leihau'r nifer o bobl sy'n croesi'r sianel yn anghyfreithlon.
Mae’r polisi’n rhan o gynllun y prif weinidog i i atal smyglwyr pobl rhag troi'r sianel yn "fynwent".
Dywedodd Mr Johnson ddydd Iau: “Dyma’r peth moesol iawn i’w wneud. Ni allwn gael pobl yn parhau i farw ar y môr.
"Mae angen i ni eu hannog i gymryd y llwybr diogel a chyfreithlon os ydyn nhw am ddod i'r wlad hon."
Mae nifer o wleidyddion a sefydliadau wedi beirniadu cynllun y llywodraeth yn chwyrn, gan y byddai'r ceiswyr lloches yn cael eu hedfan 5,000 o filltiroedd i ffwrdd o'r DU.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi disgrifio'r cynllun fel un "creulon ac annynol".
"Nid dyma'r ffordd i drin pobl sy'n chwilio am ddiogelwch a noddfa", meddai fore dydd Iau.
Mae nifer o elusennau, gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig, wedi beirniadu'r penderfyniad gan ei ddisgrifio fel un "creulon a ffiaidd".
Mae elusennau hefyd yn amau effeithlonrwydd y polisi i ddarbwyllo pobl rhag croesi'r sianel gan honni bydd y cynllun £1.4b yn achosi "rhagor o ddioddefaint ac anhrefn."
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Y Groes Goch