
Troi hen siop yn ganolfan i elusen iechyd meddwl yn Llanelli

Troi hen siop yn ganolfan i elusen iechyd meddwl yn Llanelli
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn adnewyddu hen siop yn Llanelli er mwyn ei throi’n ganolfan fydd yn cynnig cefnogaeth i bobl.
Bydd y ganolfan aml bwrpas newydd yn cynnig gwasanaeth cwnsela, hyfforddi a hyd yn oed llety dros nos i bobol mewn argyfwng.
Yn eu plith mae Mathew Bowler, 25 oed, o'r dre.
“Fe es i drwy gyfnod tywyll. Nes i ddim cael lot o lwyddiant yn yr ysgol a methu arholiadau TGAU i gyd. Mae gyda fi chydig o awtistiaeth felly doedd hynna ddim yn help chwaith. Ro ni byth yn teimlo bo fi yn ffitio mewn. Nawr fi mas o hynna fi moyn helpu pobl a fi yn gobeithio gweithio ym maes iechyd meddwl a gwirfoddoli gyda Mind yn Llanelli. "

Mae Mathew yn edrych ymlaen at ddechrau pennod newydd yn ei fywyd ar ôl cyfnod anodd a heriol. Mae'n dweud bod galw cynyddol am help ymysg pobol ifanc yn y dre a'r ardal, ac yn gobeithio y bydd y ganolfan newydd yn help i sicrhau bod ieuenctid eraill yn cael y cyfle a'r help sy angen arnyn nhw wrth wynebu iselder.
"Mae canolfan fel hyn yn bwysig iawn i bobol ifanc fy oedran i, a phobol iau. Sdim lot o help i gael mas yna.
“Rwy di colli cyment o ffrindiau, pobol ifanc sy' wedi lladd eu hunain achos bo nhw ddim yn cael eu gweld mewn pryd."
Fe fydd y ganolfan newydd yn cynnig gwasanaeth tu allan i oriau swyddfa ac mae galw am ehangu gwasanaethau o'r math yma ar hyd a lled Cymru.
Yn ôl un o’r gwirfoddolwyr mae’r gwaith yno’n dangos yr ysbryd cymunedol sydd yn y dref.
“Pan ddechreuom ni biti wyth wythnos yn ôl odd dagrau yn yng ngwyneb i ddweud y gwir, odd shwt gymaint i neud amser 'ny,” meddai Mark Evans o Rotari Llanelli.
“Ond bob yn dipyn mae wedi cael ei neud.”
'Mae e wir yn broblem'
Mae tref Llanelli fel rhannau eraill o Gymru wedi gweld cynnydd mewn galw am help gan bobol a phroblem iechyd meddwl yn y flwyddyn ddwethaf gyda Covid, costau byw a diweithdra yn ofid i lawer.
Mae Capel Greenfield ger y ganolfan yn trefnu cegin gawl i bobl sy mewn angen bob nos Fercher.
Dywedodd y Parchedig David Jones o'r capel: “Mae cynnydd wedi bod yn y bobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae lot o bobl ifanc yn cael eu heffeithio, ac mae wir yn broblem.
“Ma' pobl yn dod atom ni, a ni'n gallu gweld oddi wrthyn nhw, maen nhw moyn help, ac ar adegau s'dim lle i ni allu arwain nhw.
“Ond bydd canolbwynt fel hyn yn help mawr i ni 'wy'n credu.”
Yn ôl elusen Mind Cymru mae galw am gefnogaeth i bobol pan bod angen a hefyd mae rhaid gneud yn siŵr ei bod hi yn hawdd cael mynediad ato.
"Mae gwasanaethau gyda'r nos yn hynod bwysig " meddai Mathew Bowler o'r elusen.
"Mae lot o bobol sy ag iselder yn aros lan yn hwyr y nos , a does neb o gwmpas bryd hynny a ma ishe rhywun arnyn nhw i gefnogi nhw ac i siarad â nhw. Fe fydde ni yn hoffi gweld gwasanaethau a help ar gael pedair awr ar hugain y dydd."
Mae Mind Llanelli yn dweud eu bod wedi siarad â thua 10,000 o bobl yn y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cynnig gwasanaethau cymorth i tua 1,500. Maen nhw yn gobeithio y bydd y ganolfan newydd yn eu helpu i gyrraedd a helpu mwy o bobl ac yn fodd i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.
Nod y cynllun yw sicrhau mwy o lwyddiant fel stori Mathew sy nawr yn dweud ei fod e wedi troi cornel, yn "dod allan o iselder, yn teimlo yn rili dda ac yn edrych 'mlan nawr at y cyfle i helpu pobl erill a gwirfoddoli gyda Mind Llanelli."