Mwy na 150 wedi eu hanafu mewn mosg yn Jerwsalem

Mae dros 150 o Balestiniaid wedi eu hanafu ar ôl gwrthdaro gyda'r heddlu ym Mosg Al-Aqsa yn Nwyrain Jerwsalem.
Mae adroddiadau bod yr heddlu wedi cyrraedd y man crefyddol gydag arfau cyn y wawr ddydd Gwener, wrth i filoedd o addolwyr ymgasglu yn y mosg ar gyfer gweddïau boreol.
Dywed gwasanaeth brys Croes Goch Palestina eu bod wedi cludo'r mwyafrif o'r rhai a anafwyd i'r ysbyty, gan ychwanegu bod rhai o luoedd Israel wedi atal ambiwlansys a doctoriaid rhag cyrraedd y mosg.
Mae heddlu Israel yn honni eu bod wedi arestio o leiaf 300 o Balestiniaid yn y gwrthdaro diweddaraf, gydag adroddiadau bod grwpiau Iddewig asgell dde eithafol wedi galw am ymosodiad ar y mosg yn ystod cyfnod y Pasg.
Darllenwch y stori yn llawn yma.
Llun: Creative Commons