Undeb yn rhybuddio am weithredu diwydiannol dros newid oriau ysgol

Mae undeb addysg wedi rhybuddio y gall ei aelodau orfod mynd ar streic o ganlyniad i anfodlonrwydd dros gynlluniau'r llywodraeth i ddiwygio oriau dysgu yn ysgolion Cymru.
Dywed undeb NASUWT fod diffyg ymgynghori wedi bod hyd yma rhwng y llywodraeth a'r athrawon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi edrych ar gynlluniau i addasu'r diwrnod gwaith a diwygio dyddiadau tymhorau ysgol er mwyn creu amser ar gyfer gweithgareddau a chyfleoedd mwy eang, fel rhan o gytundeb gyda Phlaid Cymru ym mis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd llywydd newydd undeb NASUWT, sydd gyda 17,500 o aelodau yng Nghymru nad oedd tystiolaeth i ddangos sut y byddai addysg yn elwa o'r newidiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth wrth WalesOnline fod trafodaethau dros gynlluniau i ddiwygio oriau ysgol yn parhau, a nawr oedd yr amser gorau i edrych ar sut fyddai modd cefnogi lles staff a dysgwyr mewn ysgolion.
Ychwanegodd y llefarydd y byddai'r llywodraeth "yn gweithio'n agos gyda'r undebau, dysgwyr, teuluoedd a rhanddeiliaid eraill wrth edrych ar strwythur diwrnod a blwyddyn ysgol."
Darllenwch ragor yma.