Busnesau'n gobeithio na fydd costau byw'n effeithio ar dwristiaeth dros y Pasg

Busnesau'n gobeithio na fydd costau byw'n effeithio ar dwristiaeth dros y Pasg
Wedi dwy flynedd o gyfyngiadau Covid-19 llym, mae'r diwydiant twristiaeth yn edrych ymlaen at dymor gyda llai o gyfyngiadau eleni.
Ond mae pryderon y bydd y cynnydd mewn costau byw'n effeithio ar dwristiaeth dros y Pasg.
Mae Rowland Rees-Evans, perchennog Parc Penrhos yn Llanrhystud, ger Aberystwyth a Chadeirydd Twristiaeth Canolbarth Cymru yn fach bod nifer yn dewis aros yng Nghymru dros y Pasg.
Ond dywedodd bod pryder yn y diwydiant bod y cynnydd mewn costau byw yn rhwystro pobl rhag mynd ar eu gwyliau.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd: “Ni'n lwcus bod ymwelwyr yn dod nôl i Lanrhystud ac i ganolbarth Cymru, a ma' pawb ishe tamaid bach o hoe nawr a symud 'mlan, a gobeithio bydd y tymor a'r haf yn braf fel dyle fe fod.
"'Ma' di bod yn anodd iawn achos ni di bod trwy pandemig am ddwy flynedd, a nawr ma'r VAT wedi codi nôl i 20%, ma'r treth busnes wedi dod 'nôl mewn, ma' costau byw wedi mynd lan yn aruthrol yn y misoedd diwethaf achos be sy'n digwydd yn Wcráin, a ma' pethau'n galed.
Ychwanegodd: “Ma' costau i deithio lawr yma wedi codi yn ddychrynllyd dros y misoedd diwethaf a ma' hwnna’n cael effaith ar i hunan. Ond ar hyn o bryd ma' pobl ishe mynd ar wyliau, falle ma' lot ohonyn nhw ddim wedi cael dim byd am ddwy flynedd, so felly mae'n braf i weld bo' ni'n llawn am y penwythnos.”
Mae Nia Rhys Jones, Cyd-gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn hefyd yn poeni os yw mynd ar wyliau yn fforddiadwy erbyn hyn.
"Mae'r diwydiant yn ddiwydiant gwydn iawn ac yn wynebu un her ar ôl y llall ac mae yna dymor hir a phryderus o flaen y diwydiant unwaith yn rhagor.
"'Da ni gyd yn edrych i weld sut bydd ein cyflogau ni'n edrych ar ddiwedd mis Ebrill, costau teithio, costau aros ac wrth gwrs bydd hi'n bryderus i weld os fydd costau hunanarlwyo a gwestai yn codi yn enwedig yn yr Hydref a Gaeaf."
Er hynny mae Ms Jones yn obeithiol y bydd y diwydiant yn "ail- danio eto" er gwaethaf yr heriau.