Newyddion S4C

Imran Ahmad Khan yn ymddiswyddo fel Aelod Seneddol

S4C

Mae’r gwleidydd Imran Ahmad Khan wedi ymddiswyddo fel Aelod Seneddol ar ôl cael ei ganfod yn euog o ymosodiad rhyw ar fachgen 15 oed. 

Roedd Khan yn cynrychioli etholaeth Wakefield yn Sir Gorllewin Efrog, ond fe gafodd ei wahardd o’r blaid Geidwadol ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog ddydd Llun. 

Mewn datganiad, dywedodd Khan bod ei etholwyr yn "haeddu gwell na hyn" ac o'r herwydd ei fod yn ymddiswyddo fel AS Wakefield ac yn "ymbellhau o fywyd gwleidyddol."

Clywodd Llys y Goron Southwark fod Khan wedi gorfodi’r llanc i yfed alcohol, ei lusgo i fyny’r grisiau a gofyn iddo wylio pornograffi cyn ymosod arno.

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.