Cymeradwyo cynlluniau ar gyfer cerflun Cranogwen

Mae cynlluniau ar gyfer cerflun Sarah Jane Rees, neu Cranogwen, ar gyfer Gerddi Coffa Llangrannog wedi ei gymeradwyo.
Bydd yn un o bum cerflun sy’n dathlu cyfraniad menywod i fywyd yng Nghymru.
Roedd Cranogwen wedi ei chynnwys ar restr Merched Mawreddog yn 2019 am ei chyfraniad arloesol ym meysydd addysg, morwriaeth, barddoniaeth a newyddiaduraeth.
Mae swyddogion cynllunio Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo’r cais ar gyfer caniatâd cynllunio llawn, sy’n cynnwys ail-ddylunio’r ardd a chodi’r ceflun 2.3m a’r plinth.
Darllenwch y stori'n llawn gan Golwg360.