Dathlu diwrnod cenedlaethol bara lawr am y tro cyntaf
Dathlu diwrnod cenedlaethol bara lawr am y tro cyntaf
Mae dydd Iau yn nodi diwrnod cenedlaethol bara lawr am y tro cyntaf erioed.
Er nad yw i weld mor aml ar y fwydlen erbyn hyn, mae bara lawr yn cael ei adnabod fel un o brydau traddodiadol Cymru.
Wedi ei wneud o wymon ‘lawr’, mae’n fwyd maethlon sy’n cynnwys llawer o fwynau fel ïodin a haearn. Roedd bara lawr yn boblogaidd gyda’r glöwyr ac roedd yn cael ei fwyta gyda chig moch ac wyau.
Mae’n debyg mai yn ne Cymru oedd bara lawr fwyaf poblogaidd, mewn ardaloedd arfordirol fel Abertawe a Sir Benfro.
Yn 2017 enillodd bara lawr statws gwarchodedig Ewropiaidd ac mae wedi dod yn ffasiynol i’w fwyta unwaith eto gyda chwmnïau bwyd fel Selwyn’s yn gwneud byrbrydau bara lawr.
Un sydd wrth ei fodd yn coginio a bwyta bara lawr yw perchennog y Pembrokeshire Beach Food Company, Jonathan Williams.
Jonathan sydd wedi lansio diwrnod cenedlaethol y bara lawr er mwyn hyrwyddo’r bwyd Cymreig a’i fuddion maethlon.
Mae’r cogydd Chris Roberts wedi gwirioni bod diwrnod cenedlaethol i’r bara lawr.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae o yn goro bod yn un o hoff ingredients fi a ’dan ni ddim yn byta digon ohono fo, especially yn gogledd Cymru.
“Dwi’n lyfio cwcio fo efo cig oen; surf and turf.
“Gobeithio bydd pawb yn dathlu fo ac yn byta chydig o laverbread heddiw.”