Newyddion S4C

Cynllun i wella gwasanaethau i bobl sydd ag anableddau

Newyddion S4C 13/04/2022

Cynllun i wella gwasanaethau i bobl sydd ag anableddau

Mae cynllun newydd wedi ei lansio i wella gwasanaethau o fewn y diwydiant twristiaeth a hamdden i bobl sydd ag anableddau.

Mae Cynllun PIWS yn gerdyn adnabod sy'n dangos i fusnesau pa fath o anghenion sydd gan gwsmeriaid - gyda'r gobaith o gynnig mwy o gefnogaeth i bobl sydd ag anableddau ar draws Cymru.

Ar y cerdyn adnabod mae modd nodi anghenion gyda symbolau syml i geisio sicrhau fod profiadau pobl ag anableddau mor hwylus â phosib.

Mae mab Davina Carey-Evans, sylfaenydd Cynllun PIWS, yn byw gydag awtistiaeth ddifrifol, mae Davina yn gobeithio bydd y cynllun yn newid agweddau pobl.

“Rwyf wedi treulio oes yn ceisio ymweld â lleoliadau lle mae pobl wedi darparu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn unig. Dyma un o’r rhesymau pam y sefydlais PIWS sy’n cynrychioli’r ‘bunt biws’, sef pŵer gwario pobl sy’n byw ag anableddau yn y DU.

“Mae yna ofn ymysg busnesau o ddweud eu bod nhw’n darparu ar gyfer anabledd oherwydd dydyn nhw ddim eisiau gwneud rhywbeth o’i le ond yn hytrach maen nhw wedyn yn ei chael hi’n haws gwneud dim byd.

“Mae angen i fusnesau hamdden gynnig mwy na dim ond polisi neu ddatganiad o fwriad ar eu gwefan.

“Mae angen i agweddau newid.

Mae PIWS eisiau i fusnesau sicrhau bod eu staff yn gwbl gyfarwydd â'r hyn y dylen nhw ei wneud i helpu ymwelwyr anabl.

“Mae gennym becyn hyfforddi yn barod i greu criw o Hyrwyddwyr Hygyrchedd a all fynd yn ôl i’w busnesau a phasio ymlaen eu hyfforddiant a’u sgiliau i’w cydweithwyr. Dyma fydd cam nesaf yr ymgyrch.

“Os yw busnes yn ceisio gwneud gwahaniaeth ac yn araf wneud gwelliannau, mae hynny’n ddechrau gwych.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.