Newyddion S4C

Oedi cyn llacio holl reolau Covid-19 yng Nghymru

14/04/2022
covid

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cyhoeddi na fydd holl reolau Covid-19 Cymru yn cael eu llacio fel y disgwyl.

Roedd cynlluniau i gael gwared o holl reolau Covid-19 erbyn 18 Ebrill.

Mewn datganiad nos Fercher dywedodd Mr Drakeford bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod mewn grym am y tair wythnos nesaf.

Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiad tair wythnos ddiweddaraf o’r rheoliadau Covid-19.

Ond bydd y gofyniad cyfreithiol i fusnesau gynnal asesiadau risg penodol yn dod i ben ddydd Llun 18 Ebrill. Bydd busnesau’n parhau i gael eu hannog i gymryd camau i weithredu mewn modd diogel o ran Covid-19.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r newyddion gan ddweud y bydd cadw rheolau mewn grym yn effeithio ar fusnesau yn ystod penwythnos hir Gŵyl y Banc.

'Mae'r coronafeirws dal yma'

Wrth wneud y cyhoeddiad fe ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Dyw hyn ddim yn golygu bod y pandemig drosodd. Yn anffodus, mae’r coronafeirws dal yma – ry’n ni wedi gweld cynnydd mewn heintiau dros y mis diwethaf, gyda niferoedd mawr o bobl yn mynd yn sâl a chynnydd yn y niferoedd sy’n gorfod mynd i ysbyty.

“Ry’n ni’n gobeithio ein bod yn dechrau troi’r cornel. Ond mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn parhau i gymryd camau i ddiogelu ein gilydd.

“Mae popeth ry’n ni’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl o’n cwmpas – fel y mae wedi’i wneud ers dechrau’r pandemig. Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu Cymru a mwynhau dyfodol gwell.”

Ychwanegodd Mr Drakeford mai cael y brechlyn yw’r peth pwysicaf y gall pawb ei wneud i ddiogelu eu hunain.

Mae brechiad atgyfnerthu ar gael yn y gwanwyn i bobl 75 mlwydd oed a hŷn, pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn a phobl 12 mlwydd oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan.

Mae gwahoddiadau hefyd yn cael eu hanfon i deuluoedd sydd â phlant rhwng 5 ac 11 mlwydd oed sydd nawr yn gymwys am ddos sylfaenol o frechlyn Covid-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi pum cam y gall pobl eu cymryd i helpu i ddiogelu pawb:

  • Aros gartref (hunanynysu) os ydych yn sâl neu’n profi’n bositif am y coronafeirws.
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus prysur o dan do.
  • Cwrdd yn yr awyr agored pan fo’n bosibl ac awyru mannau o dan do yn dda os byddwch yn cwrdd o dan do.
  • Cymryd camau ychwanegol pan fyddwch yn ymweld â phobl agored i niwed. Dylech osgoi cwrdd â nhw os yw’n bosibl os oes gennych unrhyw symptomau haint anadlol.
  • Golchi dwylo’n rheolaidd a gorchuddio’ch ceg a’ch trwyn pan fyddwch yn peswch ac yn tisian.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 5 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.