
Addasu sesiynau chwaraeon yn ystod gŵyl Ramadan
Addasu sesiynau chwaraeon yn ystod gŵyl Ramadan
Mae Clwb Criced Morgannwg, Criced Cymru a Golff Cymru wedi dechrau cynnal sesiynau gyda'r nos er mwyn caniatáu i Fwslemiaid sy'n cymryd rhan yng ngŵyl Ramadan barhau i chwarae.
Gŵyl grefyddol yw Ramadan gyda phobl yn ymprydio rhwng toriad gwawr a machlud haul.
Yn ôl Mojeid Ilya, Swyddog Datblygu Cymunedau Amrywiol Criced Cymru, mae cynnal y gweithgareddau yn ystod oriau man y bore yn gyfle i ddod â’r gymuned ynghyd.
“Roedd o gwmpas 45 o bobl yma nos Iau o bob oedran.
“Ar ôl siarad gyda’r gymuned, daeth hi’n amlwg fod galw am ddigwyddiadau fel hyn ar ôl diwedd ymprydio.
“Mae hwyl wrth wraidd hyn, y teimlad yna o fod gyda’n gilydd ac ymfalchïo o fod yn Gymreig ac mae’n rhywbeth rydym yn edrych i hyrwyddo yma.
“Wrth gerdded i’r stadiwm mae modd i chi ddathlu eich Cymreictod, dim bwys beth ydy’ch crefydd, diwylliant, rhyw, ac mae’n gam mawr ymlaen i ni.”
Bydd Criced Morgannwg yn agor eu cyfleusterau yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd rhwng 11.30pm-1am bob nos Iau yn ystod y cyfnod.

Y gobaith yw y bydd sefydliadau chwaraeon eraill yng Nghymru yn gallu dilyn yr un patrwm yn y dyfodol.
Yn ôl Aleena Khan, sy’n chwarae hoci, gall cyflwyno newidiadau bychain wneud gwahaniaeth mawr.
“Maen nhw’n ceisio sicrhau bod pawb yng Nghymru yn medru cymryd rhan mewn chwaraeon, ac mae hynny’n rhywbeth pwysig iawn i fi.
“Pan o’n i’n tyfu lan, doedd dim newidiadau yn cael eu gwneud oedd yn golygu fy mod i’n dioddef mwy na phawb arall.
“Gyda’r newidiadau yma, bydd yn dangos i bobl o gymunedau lleiafrifol bod chwaraeon yn ceisio annog i chi ymuno â nhw a’ch cynnwys chi. Gobeithio gyda’r newidiadau yma byddaf i’n araf yn gweld mwy o amrywiaeth mewn chwaraeon."
Mae'r sesiynau golff a chriced eisoes wedi profi'n llwyddiant a'r bwriad yw ehangu'r ddarpariaeth i leoliadau eraill y flwyddyn nesaf.