
Cynnal taith dractorau er cof am fachgen tair oed fu farw ar fferm yn Sir Gâr
Cynnal taith dractorau er cof am fachgen tair oed fu farw ar fferm yn Sir Gâr
Roedd taith dractorau wedi cael ei chynnal ddydd Sadwrn er cof am fachgen tair oed fu farw ar y fferm deuluol yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd degau o dractorau a cherbydau eraill wedi ymgynnull ar gyfer y daith.
Bu farw Ianto Siôr Jenkins ar 3 Awst 2021, yn dilyn gwrthdrawiad ar y fferm ym mhentref Efailwen, ger Clunderwen.
Roedd aelodau o'i deulu a rhai o bobl y gymuned wedi trefnu'r daith, a oedd hefyd yn cynnwys ceir clasurol a lorïau.
Bydd yr arian yn mynd at nifer o elusennau sydd wedi cefnogi'r teulu.
Mewn cyfweliad arbennig gyda Newyddion S4C ym mis Mawrth, dywedodd mam-gu Ianto, Meinir Jenkins fod cefnogaeth pobl y gymuned "wedi bod yn sbesial".
Roedd y daith yn dechrau am 12:00 o Iard Trafnidiaeth Y Frenni yng Nghrymych.

Yn dilyn y daith, roedd cyngerdd gyda'r nos ar dir y fferm gyda nifer o artistiaid lleol yn perfformio.
Roedd Dafydd Pantrod a'r band, Jessica Robinson, Sioned Llewelyn, Clive Edwards a Chôr Clwb Rygbi Crymych ymhlith yr artistiaid.
Roedd arwerthiant a raffl i godi arian at yr elusennau yn cael ei chynnal hefyd.
Prif lun: Brian Llewelyn a'i Ferched