Ianto Jenkins: ‘Mae’n golled fawr i ni gyd fel teulu’
Ianto Jenkins: ‘Mae’n golled fawr i ni gyd fel teulu’
Mae mam-gu bachgen tair oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar y fferm deuluol yn Sir Gaerfyrddin wedi dweud fod ei farwolaeth yn “golled fawr i ni gyd fel teulu”.
Mewn cyfweliad arbennig â Newyddion S4C, dywedodd Meinir Jenkins fod Ianto yn “grwt bach bishi, pert. ‘Itha deryn.”
Bu farw Ianto yn dilyn y gwrthdrawiad ym mhentref Efailwen, ger Clunderwen, ar 3 Awst 2021.
Disgrifiodd Mrs Jenkins hefyd sut oedd Ianto yn ffrind mawr i’w chwaer, Seren.
Mae aelodau o’i deulu a rhai yn y gymuned wedi trefnu taith dractorau ym mis Ebrill i godi arian at nifer o elusennau er cof amdano.
Ianto oedd unig ŵyr Mrs Jenkins, a bob amser yn mwynhau treulio amser gyda’i chwaer a’i gyfnitherod yn ôl ei fodryb.
“Fe we’r unig bachgen o’r grandchildren so dwi’n meddwl wedd e gyda merched drwy’r amser ac o’dd yn gorfod gwisgo ffroc a pethau os o’dd y merched ishe gwisgo ffroc”, meddai Glesni Evans.
‘Pobl wedi bod yn sbesial’
Dywedodd Mrs Evans fod trefnu’r daith dractorau wedi rhoi ffocws i’r teulu ac yn gyfle i roi yn ôl i’r gymuned sydd wedi bod yn gefnogol iddyn nhw ar adeg mor anodd.
“Yn y dechrau, we pobol yn dod i weld ni, dod â bwyd i ni fel bo ni ddim yn gorfod meddwl biti beth we ni’n gael i swper a pethe, a jyst gwbod bod nhw i gyda ‘na i ni,” meddai.
“Ma’ bobl wedi bod yn sbesial”, ychwanegodd Mrs Jenkins.
Yn wahanol i’r arfer, bydd ceir a lorïau hefyd yn rhan o’r daith dractorau hon, gydag artistiaid lleol yn cymryd rhan mewn noson o adloniant gyda’r nos ar dir y fferm.
Bydd y daith dractorau yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 9 Ebrill, gyda thocynnau cyfyngedig ar gael ar gyfer y gyngerdd gyda’r nos.
Dywed Glesni Evans na fydd bywyd byth yr un fath i’r teulu ar ôl colli Ianto.
“Ma’ fe ‘di bod yn amlwg yn newid bywyd i ni fel teulu a dwi’n meddwl bydd e wedi newid bywyd ni am byth.”