Newyddion S4C

Gŵr Jade Marsh yn euog o’i llofruddiaeth yn Sir y Fflint

North Wales Live 06/04/2022
Jade Ward
Jade Ward

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, mae dyn 29 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio ei wraig a mam i bedwar o blant, yn ei chartref yn Shotton, Sir y Fflint.

Bu farw Jade Marsh, 27 oed, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Ward ar 26 Awst 2021.

Roedd Russell Marsh wedi cyfaddef i gyhuddiad o ddynladdiad, ond fe'i cafwyd yn euog o'i llofruddiaeth gan reithgor.

Roedd Russell a Jade Marsh wedi gwahanu pan gafodd ei llofruddio. 

Cafodd Jade Marsh ei thrywanu a'i thagu tra bod y pedwar plentyn yn cysgu yn y tŷ.

Mae disgwyl i Marsh gael ei ddedfrydu ddydd Mawrth,12 Ebrill.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.