Newyddion S4C

'Da ni ‘di gorfod cwffio am bob dim'

ITV Cymru 03/04/2022

'Da ni ‘di gorfod cwffio am bob dim'

Mae Lowri Roberts o Gaernarfon yn fam i Cian, gafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn Haf 2020.

Penderfynodd Lowri a’i gŵr fynd yn breifat i gael diagnosis yn Nghaer gan fod y gwasanaeth iechyd wedi rhoi Cian ar restr aros o 6 mlynedd. Ond nid yw bywyd wedi bod llawer haws i’r teulu wrth geisio dod o hyd i adnoddau cyfrwng Cymraeg.

“Da chi ddim yn cael unrhyw fanylion am beth sydd ar gael i helpu, yn enwedig yn y Gymraeg. ‘Da ni ‘di gorfod cwffio am bob dim,” meddai.

“Da ni ‘di gorfod symud Cian o un ysgol i ysgol arall achos doedd o ddim yn cael yr help oedd o fod cael.

“Mae hi mor bwysig cael adnoddau yn y Gymraeg er mwyn bod o’n gallu deall.”

Nid oes gan bob ysgol unedau sy’n gallu cefnogi pob plentyn sydd ag awtistiaeth. Ond mae’r teulu’n ddiolchgar bod Cian wedi ymgartrefu mewn ysgol arall.

“Y peth gorau ‘da ni wedi gwneud yw symud o i Ysgol Maesincla. Mae o wrth ei fodd yno.”

Ond dyw’r camau nesaf ar ôl yr ysgol gynradd ddim yn glir i’r teulu. Ni fydd Cian yn dilyn trywydd confensiynol o fynychu’r ysgol uwchradd oherwydd ni fydd e’n gallu ymdopi.

“Sgynnon ni ddim clem ble ‘da ni’n mynd o hyn ymlaen i fod yn onest. ‘Da ni angen mwy o wybodaeth fel rhieni. Mae’r holl fanylion ‘da ni ‘di cael ers y diagnosis ‘di bod yn Saesneg.”

Diffyg adnoddau yn y Gymraeg

I Helen Bucke, sy’n therapydd galwadigaethol sy’n arbenigo mewn awtisitaeth, mae’r broblem yn dechrau wrth baratoi pobl i weithio â’r cyflwr.

“Efo pethau fel hyfforddiant, does ‘na ddim digon o bethau yn y Gymraeg sy’n ddigon da i fod yn onest, efo quality i fedru eu defnyddio mewn ysgolion,” meddai.

“Dwi’n gweithio efo lot o athrawon ac ysgolion ac mae llawer ohonyn nhw’n deud ‘da ni ddim yn dallt, ‘da ni ddim yn gwybod beth i’w wneud.”

Yn ôl Helen, does gan lawer o bobl ddim dealltwriaeth ynglyn â beth yn union ydy awtistiaeth a bod beth sydd wedi cael ei ddangos ar y teledu yn y gorffennol yn dylanwadu ar hyn.

“Un o’r problemau efo autism ydy’r ffaith bod pawb yn wahanol.

“Beth sgynon ni fel arfer yw pethau ar y teledu sy’n gwneud i bobl feddwl mae’r unig beth ydy autism ydy rhywun fel Rain Man neu rywun fel Albert Einstein, ac mae hynny mor bell i ffwrdd o beth ydy autism.”

Mae Dr Sion Jones o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn cydnabod bod Saesneg yn gallu bod yn rhwystr i rai plant sydd â’r cyflwr.

“Mae rhai unigolion gydag awtistiaeth yn datblygu iaith yn arafach o’i gymharu â phobl eraill. Felly, os mai iaith yr aelwyd yw’r Gymraeg dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yr adnoddau ar gael yn yr iaith mae’r unigolion yn teimlo’n fwy cyfforddus ynddi.”

Ond gyda chyn lleied o unedau mewn ysgolion sy’n gallu cynnig gofal trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r disgwyliadau arnyn nhw’n gallu gwneud eu gwaith yn anodd.

“Maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n gorfod cymryd rhai pobl ymlaen sy’n siarad Cymraeg am eu bod nhw’n gallu cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg.”

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru; “cafodd ein hadolygiad o wasanaethau niwroddatblygiadol pob oed ei gwblhau ym mis Mawrth. Bydd y canlyniadau’n cynnwys opsiynau i ddatblygu a gwella gwasanaethau.

“Rydym hefyd wedi cyhoeddi cod ymarfer ar gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth, sy’n cynnwys ymrwymiad y dylid cynnig yr holl wybodaeth, asesiadau a chymorth yn y ddwy iaith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.