Newyddion S4C

Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau Cwpan y Byd Merched 2023

31/03/2022
Merched Cymru

Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi carfan o 26 o chwaraewr ar gyfer gemau allweddol yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 ym mis Ebrill. 

Bydd Cymru yn wynebu Ffrainc ar nos Wener 8fed o Ebrill cyn teithio i Nur-Sultan i wynebu Kazakhstan ar ddydd Mawrth 12fed o Ebrill. 

Mae gan Grainger garfan sydd bron yn holliach, gyda Josie Green yn dychwelyd ar ôl methu gêm Cwpan Pinatar oherwydd anaf. 

Yn anffodus, ni fydd Esther Morgan na Hannah Cain ar gael oherwydd anafiadau. 

Ar ôl i Wayne Hennessey ddathlu ei 100fed cap yn ystod gemau rhyngwladol tîm y dynion ym mis Mawrth, fe fydd Helen Ward (99 cap) a Tash Harding (98 cap) yn gobeithio dathlu’r llwyddiant dros y gemau nesaf hefyd. 

Bydd Grainger yn gobeithio adeiladau ar y momentwm sydd wedi tyfu o amgylch y garfan yn yr ymgyrch cyn belled. Mae’r tîm yn yr ail safle yn y rownd ragbrofol ar ôl chwe gêm, gyda Chymru yn ennill pedair, un gêm gyfartal a cholli un. 

Mae tocynnau ar werth ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc (dydd Gwener 8 Ebrill, Parc y Scarlets, Llanelli) ar gael ar faw.cymru/tickets, gyda prisiau yn dechrau o £2 (archebion grŵp) a £4 (archebion unigol).

Cymru: Laura O’Sullivan (Caerdydd), Olivia Clark (Coventry United), Poppy Soper (Plymouth Argyle- ar fenthyg o Chelsea), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Josie Green (Tottenham, Hayley Ladd (Manchester United), Gemma Evans (Reading), Rachel Rowe (Reading), Lily Woodham (Reading), Sophie Ingle (Chelsea), Anna Filbey (Charlton), Angharad James (Orlando Pride), Chloe Williams (Manchester United), Charlie Estcourt (Coventry), Jess Fishlock (OL Reign), Carrie Jones (Manchester United), Ffion Morgan (Bristol City), Megan Wynne (Charlton), Elise Hughes (Charlton), Kayleigh Green (Brighton), Helen Ward (Watford), Natasha Harding (Reading), Ceri Holland (Lerpwl), Chloe Bull (Bristol City), Georgia Walters (Sheffield United), Morgan Rogers (Watford- ar fenthyg o Tottenham).

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.