‘Anafiadau trywanu difrifol’ i ddyn yng Nghaerdydd

Mandeville Street

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn ddioddef anafiadau trywanu difrifol yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi eu galw am 11.35 i adroddiadau bod dyn 34 oed wedi mynd i’r ysbyty gyda’r anafiadau.

Roedd wedi ei anafu ar Stryd Mandeville, Glan yr Afon (Riverside) yn gynharach ddydd Sadwrn medden nhw.

Mae’r heddlu yn ymchwilio ac wedi gofyn i unrhyw un a welodd yr ymosodiad neu sydd â fideo camera cylch cyfyng neu dashfwrdd o Stryd Mandeville i gysylltu â nhw.

09.30 a 12.00 yw’r oriau a allai fod yn berthnasol i’r ymosodiad, medden nhw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500230069.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.